Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2020
Amser:
14.00 -
16.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6419
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS |
Tystion: |
Simon Hart MP, Ysgrifennydd Gwladol Cymru Geth Williams, Swyddfa Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless AS.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
PTN1 - Llythyr gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 – 17 Mehefin 2020
PTN2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cyfarfodydd rhwng y pedwar Gweinidog Cyllid – 19 Mehefin 2020
PTN3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21: Camau gweithredu o'r cyfarfod ar 4 Mehefin 2020 – 22 Mehefin 2020
PTN4 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg – Mwy o gyllid at ddibenion Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y sector Addysg Uwch – 23 Mehefin 2020
PTN 5 - Llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd – Polisi buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit – 25 Mehefin 2020
PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cronfa Wrth Gefn y DU – 3 Gorffennaf 2020
PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at Ganghellor y Trysorlys: Diweddariad economaidd yr haf - 3 Gorffennaf 2020
PTN 8 - Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru at Ganghellor y Trysorlys: Y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig - 4 Mehefin 2020
PTN9 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Meddalwedd Deddfwriaeth - 7 Gorffennaf 2020
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 5, 6, 7, 8 a 10
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Ymchwiliad i broses cyllideb ddeddfwriaethol: Trafod yr adroddiad drafft
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
5 Penodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru: Trafod yr adroddiad drafft
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
6 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Dull o gynnal gwaith craffu
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, ar gyfer 2021-22.
7 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.
8 Trafod ymatebion gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol: Effaith ariannol pandemig COVID-19
8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y cyrff a ariennir yn uniongyrchol.
9 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gwir Anrh. Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrh. Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru ar yr ymateb ariannol i COVID-19.
9.2 Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion cyfrifiadau Trysorlys EM o ran y cyllid gwerth £500 miliwn mewn ymateb i COVID-19 ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn Niweddariad Economaidd yr Haf.
10 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.